Croeso

Mae Byw Sir Gâr - Living Carmarthenshire yn brosiect arloesol newydd sy'n cynorthwyo cymunedau yn Sir Gâr i leihau eu hôl-troed carbon ac ymdrin â newid hinsawdd.
Mae'r cynllun bartneriaeth gyffrous yma yn gobeithio rhoi gwybodaeth a theclynau i bobl a fydd yn eu galluogi i fyw bywydau hapusach, gwyrddach, a mwy cymunedol, ac mi fydd yn gael ei ymestyn i gymunedau arall o amgylch Sir Gâr o 2010.
Mae pentref Glan-y-fferi wedi cael ei ddewis i dreialu'r cynllun, sydd y cynta o'i fath yng Nghymru, ac mi fydd yn ganolbwynt i ymgyrch mis cyfan yn ystod mis Tachwedd.
Mae yna lot yn digwydd - ymwelwch â'r dudalen Gweithgareddau Cymunedol i weld beth sydd ymlaen.
Os hoffech chi gymeryd rhan cysylltwch â Eurgain Powell neu Aled Vaughan Owen
ar 01267 224902 neu 01269 871600
ehpowell@sirgar.gov.uk
aled@mentercwmgwendraeth.org.uk
Mae'r safle we yma'n cael ei ddatblygu, ac mi fydd yn cael ei ddiweddaru'n aml, felly cofiwch ymweld â ni eto .