Gweithgareddau Cymunedol 



Yn ystod mis Tachwedd, rydym wedi bod yn gweithio gyda Glanyfferi er mwyn rhoi cymorth i drigolion yr ardal ddeall yr effaith mae ein ffordd ni o fyw yn ei chael ar y blaned, er mwyn lleihau eich ôl troed carbon ac allyriadau, ac i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.   

Yn ystod y mis, roedd amrywiaeth o weithgareddau'n digwydd gan ganolbwyntio ar bum prif faes:
• arbed adnoddau
• arbed ynni
• teithio'n gall
• siopa'n lleol ac yn foesegol; a
• gofalu am yr ardal leol a bioamrywiaeth leol.
Lansiwyd yr ymgyrch ar y 1af a'r 2il o Dachwedd.
Mae'r grwpiau a'r mudiadau lleol i gyd yn cymryd rhan yn y rhaglen gymunedol hon, gan gynnwys y cyngor cymuned, fforwm y pentref, y siop leol, y cylch meithrin, cymdeithas y pensiynwyr a'r grŵp rhandiroedd.  

Edrychwch ar dudalen Gweithgareddau yn y Pentref
i weld pa fath o weithgareddau gynhaliwyd yn y pentref. 

Yn ogystal, mae arddangosfa barhaol yn y Ganolfan Addysg Gymunedol felly dewch draw i gael golwg ar yr arddangosfa "Newid Hinsawdd - beth sy'n digwydd," "Tŷ Cynaliadwy" Cynnal Cymru a llawer mwy!  
Rydym ni hefyd wedi gweithio gyda phobl Glanyfferi i gyfrifo eu Holion Traed Ecolegol, gan ddefnyddio offeryn y WWF:  http://footprint.wwf.org.uk/
Bydd hyn yn dweud wrthym ni yn union faint o blanedau mae trigolion Glanyfferi yn eu defnyddio i gynnal eu ffordd o fyw.

Y cyfartaledd ar gyfer Sir Gaerfyrddin (a Chymru) yw 2.8 o blanedau!